Coronafeirws
Ein trefniadau yn ystod Pandemig Coronafirws
Yn anffodus, rydym wedi gwneud y penderfyniad i ohirio ein grwpiau cefnogi gofalwyr ac unrhyw weithgareddau ar hyn o bryd. Ni fyddem yn cynnig ymweliadau cartref na chefnogaeth wyneb yn wyneb hyd y nes clywir yn wahanol.
Fodd bynnag, bydd ein gwasanaeth cefnogaeth yn parhau a gallwch gysylltu gyda ni yn uniongyrchol dros y ffon, drwy e-bost neu drwy Facebook a byddwn yn hapus i helpu hyd eithaf ein gallu. Gobeithiwn hefyd wneud mwy o alwadau i ofalwyr dros y cyfnod anodd hwn.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu’n teimlo’n unig, cofiwch gysylltu â ni ac edrychwch ar ôl eich hunain a’ch annwyliaid.
Wrth i’r sefyllfa newid yn gyflym, rydyn ni’n derbyn diweddariadau cyson dros e-bost gan y llywodraeth, y bwrdd iechyd a grwpiau cymunedol rhy niferus i’w cynnwys yma. Mae’r rhain hefyd yn newid yn gyson – felly os ydych chi eisiau gwybod unrhyw beth o gwbl ynghylch eich sefyllfa a’r coronafeirws, cysylltwch â ni drwy’r sianeli arferol. Bydd ein llinellau ffôn yn aros ar agor gan eu bod yn cael eu hail-gyfeirio i gartrefi ein staff. Mae gan ein staff fynediad i’n ffeiliau canolog, felly byddan nhw’n medru eich diweddaru’n rheolaidd ar y datblygiadau diweddaraf. Byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu.
Medrwch gysylltu â ni drwy’r ffyrdd canlynol:
• Y wefan hon
• Ein tudalen Facebook
• Ffôn: 01248 370797
• E-bost: help@carersoutreach.org.uk
Adnoddau Coronafeirws
Mae gan wefan eich cyngor lleol wybodaeth am wasanaethau a chymorth cymunedol i’r rheini sydd eu hangen yn ystod pandemig y coronafeirws.
Canllawiau COVID-19 ar gyfer gofalwyr di-dâl – Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
www.anglesey.gov.uk
www.gwynedd.llyw.cymru
www.conwy.gov.uk
www.gov.uk/coronavirus
Mae gan Anabledd Dysgu Cymru wybodaeth ddefnyddiol a rhai canllawiau hawdd eu darllen: www.ldw.org.uk