Codi Ymwybyddiaeth

Ymwybyddiaeth o Ofalwyr yng Ngwasanaeth Cynnal Gofalwyr

Hyfforddiant Proffesiynol

Medrwn drefnu hyfforddiant proffesiynol ar ymwybyddiaeth o ofalwyr ar gyfer unrhyw gwmni statudol, preifat neu wirfoddol.

 

Gweithio gyda chyflogwyr

Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr ac yn eu hannog i fabwysiadu arferion sy’n gyfeillgar i ofalwyr yn y gweithle.

 

Fforwm Gofalwyr

Rydym yn ceisio cynnal fforymau gofalwyr yn rheolaidd er mwyn asesu’r angen a hefyd i ymgynghori â gofalwyr ynghylch unrhyw faterion. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn fforymau trydydd partïon er mwyn sicrhau bod llais y gofalydd yn cael ei glywed.

 

Grwpiau Ffocws Pwrpasol

Trefnir grwpiau ffocws pan fo angen..

 

Hwyluswyr Meddygon Teulu

Mae ein Hwyluswyr Meddygon Teulu yn gweithio’n agos â phob meddygfa teulu yn ein hardal ddaearyddol o ddiddordeb er mwyn codi ymwybyddiaeth o ofalwyr. Maen nhw hefyd yn annog gweithwyr i adnabod gofalwyr yn gynnar er mwyn sicrhau eu bod yn cael cymorth amserol ac yn annog mesurau ataliol i gefnogi gofalwyr.

 

Cynrychioli

Rydym yn cynrychioli gofalwyr ar lawer o lefelau, trwy fynd i gyfarfodydd, darparu adborth gan ofalwyr i gyrff perthnasol a hefyd yn y wasg..

 

Allgymorth a datblygu cymunedol

Rydym yn gweithio’n agos â’r gymuned i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i bob gofalydd, lle bynnag y mae’n byw. Rydym yn ceisio datblygu cymunedau cynhwysol sy’n cefnogi pob gofalydd.