Sut ydych chi’n teimlo heddiw?

Ydw i o dan straen?

Beth mae’n ei olygu i fod o dan straen? Yn ôl gwefan ‘medical news today’, mae pobl o dan straen pan fyddan nhw’n cael eu gorlwytho ac yn cael anhawster ymdopi â’r galwadau. Mae straen yn medru ysgogi; ac mae straen yn medru bod yn hanfodol i oroesi. Mae’r weithred o ymladd a ffoi yn medru dweud wrthym pryd a sut i ymateb i berygl. Ond, os yw’r weithred hon yn cael ei sbarduno’n rhy hawdd, mae’n medru tanseilio iechyd meddwl ac iechyd corfforol unigolyn a pheri niwed.

Ydw i o dan ormod o straen? Mae hyn yn beth personol - mae pob un ohonom yn medru ymdopi â gwahanol lefelau o straen. Mae’r hyn sy’n bywiogi un person yn medru bod yn frawychus i rywun arall....Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

Fy Nhaith Trwy Straen

Rai blynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n gofalu am fy mam a oedd â dementia cymysg. Roedd hi eisiau aros yn ei chartref ei hun ac, er gwaethaf fy mhryderon i am ei diogelwch hi a diogelwch ei chymdogion, cafodd y sefyllfa hon ei chaniatáu hyd nes iddi farw. Roeddwn i’n poeni fy enaid y byddai’n llosgi’r tŷ’n ulw a bu’n rhaid i mi ymdrin â llawer o gwynion gan ei chymdogion ynghylch ei natur ymosodol. Rhwng popeth, fel y bydd unrhyw ofalydd dementia’n dweud wrthych, roedd yn gyfnod llawn straen.

Ychydig cyn marwolaeth mam, aeth perthynas agos arall yn ddifrifol wael a bu farw 3 pherthynas/ffrind agos arall - rhai ohonynt yn llawer rhy ifanc!....Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Dileu straen


Rhai syniadau ar sut i ddileu straen

  • Ceisiwch beidio â dweud ‘ie’ i bopeth yr holir i chi ei wneud. Y cwbl y mae hyn yn ei wneud yw cynyddu’r lefelau straen. Mae’n iawn i ddweud na weithiau. Os ydym ni bob amser yn dweud ie, pa werth sydd iddo pan rydym ni eisiau ei ddweud go iawn?
  • Gorffwyswch – hyd yn oed am brin 10 munud. Porwch drwy gylchgrawn neu caewch eich llygaid a gwrando ar gerddoriaeth ymlacio. Mae’n bwysig chwilio amser i fagu nerth newydd.....Cliciwch yma am fwy o wybodaeth