MAE PAWB YN DOD YN OFALYDD AR RYW ADEG

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr ydym ni. Os ydych chi’n oedolyn sy’n ofalydd di-dâl yng Ngogledd Cymru, medrwn ni eich helpu a’ch cefnogi.
Rydym yn elusen gofrestredig ac rydym yn darparu cymorth yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn.

Ni ddylai unrhyw un orfod gofalu ar ei ben ei hun

Rydym yn sylweddoli bod pob sefyllfa gofalu yn unigryw a bod gan ofalwyr lawer o wahanol anghenion. Mae ein tîm cyfeillgar a phrofiadol yn deall sut beth yw hi i fod yn ofalydd a medran nhw eich helpu i ymdopi â’r gwaith gofalu.
Os ydych angen gwybodaeth, cymorth neu’n syml, amser i chi’ch hun, rydym ni yma i chi...

 

CADW MEWN CYSYLLTIAD

facebook

Hoffwch Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr ar Facebook

twitter

Dilynwch Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr ar Twitter